Ymateb y Llywodraeth: Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) (Diwygio) 2024

 

 

Pwynt Craffu 1:                                 Mewn gohebiaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA) ym mis Tachwedd 2022, tynnodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg sylw at y ffaith yr aed ati i weithredu mewn ffordd raddol yn seiliedig ar dair egwyddor allweddol:

 

·        Sicrhau parhad y ddarpariaeth ar gyfer y sector heb amharu mewn ffordd amlwg ar ddarparwyr na dysgwyr wrth i’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (y Comisiwn) gael ei sefydlu,

·        Osgoi rhoi baich diangen ar ddarparwyr yn ystod y cyfnod gweithredu, er enghraifft rheoli a chyd-drefnu lefel ac amseru’r ymgysylltu a’r ymgynghori ffurfiol,

·        Trefnu bod y dyletswyddau strategol, a nodir yn Rhan 1 o’r Ddeddf, yn ffurfio sylfaen greiddiol gwaith y Comisiwn o’r dechrau’n deg, gan gynnwys paratoi a chyhoeddi datganiad o flaenoriaethau Gweinidogion Cymru.

 

Ar 24 Ionawr, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad ysgrifenedig, y gwnaeth hefyd gyfeirio ato pan fynychodd y Pwyllgor PPIA ar 28 Chwefror, yn cadarnhau y byddai’r pwerau deddfwriaethol bellach yn cael eu trosglwyddo i’r Comisiwn ar 1 Awst 2024, gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn parhau i arfer ei swyddogaethau rheoleiddio a chyllido llawn tan hynny. Cytunwyd ar y dyddiad diwygiedig er mwyn sicrhau trosglwyddiad esmwyth o ran yr amgylchedd cyfreithiol a rheoleiddiol presennol, sydd wedi bod yn fwy cymhleth nag a ddisgwyliwyd i ddechrau pan gafodd Gorchymyn 2023 ei wneud.

 

Er bod y dyddiad gweithredol ar gyfer y Comisiwn wedi ei ddiwygio, bydd yn parhau i weithio ar ddatblygu ei gynllun strategol cyntaf a pharatoadau ar gyfer system reoleiddio newydd addysg drydyddol. Er y bydd staff bellach yn cael eu trosglwyddo i’r Comisiwn ar 1 Awst 2024, mae swyddogion yn parhau i weithio’n agos gyda CCAUC a’r Comisiwn i sicrhau bod trefniadau staffio addas ar waith i gynnal momentwm a sicrhau parhad i’r sector. Bwriedir i’r gwaith paratoi hanfodol hwn gefnogi trosglwyddiad esmwyth mewn perthynas â’r Comisiwn yn dod yn weithredol, gan sicrhau nad oes unrhyw darfu amlwg ar ddysgwyr na darparwyr.

 

Mae’r dyddiad gweithredol diwygiedig yn unol â’r egwyddorion gweithredu a nodir uchod ac mae’n ceisio taro cydbwysedd rhwng darparu amser priodol i sicrhau bod y newidiadau i’r dirwedd ddeddfwriaethol yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus a hefyd sicrhau bod y trefniadau newydd yn effeithiol ar lawr gwlad cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

 

Mae rhanddeiliaid wedi croesawu hyn ac maent yn cydnabod bod trosglwyddiad esmwyth i ddysgwyr, darparwyr a staff yn allweddol i gyflawni ein gweledigaeth arloesol ac uchelgeisiol ar gyfer sector addysg drydyddol ac ymchwil Cymru.